Lleoliad:
Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 5 Gorffennaf 2023
Amser:
09.17 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13392
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Heledd Fychan AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg James Owen, Llywodraeth Cymru Jo Salway, Llywodraeth Cymru Abigail Philips, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Swyddog) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Claire Thomas (Ymchwilydd) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Sian Hughes (Ymchwilydd) Lucy Morgan (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.3 Croesawodd y Llywydd Heledd Fychan AS i’r Pwyllgor Busnes a diolchodd i Sioned Williams am ei chyfraniad gwerthfawr at waith y Pwyllgor dros y ddwy flynedd diwethaf.
2 Papurau i'w nodi
2.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 4, eitem 7 ac eitem 9 ar agenda’r cyfarfod hwn.
3.1 Derbyniwyd y
cynnig.
4 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
4.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Cytunodd yr aelodau ar y canlynol:
- ysgrifennu at y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidogion perthnasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a’r gwaith dilynol ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion.
- yn amodol ar y wybodaeth yn yr ohebiaeth a geir gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, ymateb gan ofyn am ragor o wybodaeth am y ddarpariaeth ar gyfer unedau mamau a babanod yng Nghymru.
- ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynghylch y defnydd o e-sigaréts ymhlith plant a phobl ifanc.
- trafod cwmpas
y gwaith cysylltiedig ag ymchwiliad i droseddoli plant a phobl
ifanc
5 Trafod y dull gweithredu o ran sesiwn cynllunio strategol y Pwyllgor
5.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar y modd y byddai’n ymdrin â’r sesiwn
cynllunio strategol nesaf a gaiff ei chynnal ar 14
Medi.
6 Gweithredu diwygiadau addysg - ystyried canlyniad y broses gysylltu yn yr haf 2023
6.1 Trafododd y Pwyllgor y sesiwn ddiweddaraf a gynhaliwyd fis Ebrill/Mai.
6.2 Cytunodd yr Aelodau ar y llythyr drafft at Weinidog y Gymraeg ac Addysg.
7 Diweddariad ar weithgareddau'r Pwyllgor
7.1 Rhoddodd yr Aelodau’r wybodaeth lafar ddiweddaraf a gafwyd am waith y Pwyllgor yn ystod y tymor.
7.2 Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cyfarfodydd a ganlyn a gynhaliwyd:
- Cyfarfodydd gweinidogol bob deufis
- Digwyddiad CLASS Cymru
- Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol Aberhonddu ac Abertawe
- Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil
- Y Dirprwy Weinidog - Deddfwriaeth Amgylchedd Bwyd Iach
- Tîm EYST
- Cynghrair Gordewdra Cymru
- Fforwm y Cadeiryddion
7.3 Clywodd y Pwyllgor am yr ymweliadau ag ysgolion a gynhaliwyd yn ddiweddar fel rhan o’i ymchwiliad, sef ‘A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?’
8 Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion ar addysg a sgiliau ôl-16
8.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith Gweinidog y Gymraeg ac Addysg a gwaith Gweinidog yr Economi.
8.2 Cytunodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i roi ystadegau i’r Pwyllgor ar lefel y cysylltiad rhwng Gyrfa Cymru a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
8.3 Cytunodd
Gweinidog yr Economi i baratoi nodyn ar gyfer y Pwyllgor ar ehangu
gradd-brentisiaethau.
9 Sesiwn graffu ar y cyd gyda Gweinidogion - trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn ystod y sesiwn dystiolaeth flaenorol.